Croeso i Kitchens
Sefydlwyd "Kitchens" gan wr o’r enw Douglas Bullock, yn Ebrill 1968. Dechreuodd e’r fusnes yn gwerthu ychydig o offer cegin, a ffedogau o stondin farchnad Sul ym Mriste. Fe sylweddolodd yn fuan fod potensial yn yr ardal i agor siop barhaol, ac o fewn pump mis fe agorodd siop fychan yn Clifton. Y flwyddyn ganlynnol fe agorodd ail siop, fwy mewn maint, eto ym Mriste, ac yna yn 1979 un yng ghannol Bath.
Agorodd siop "Kitchens" yng Nghaerdydd yn 1990. Mwy na thebyg y siop fwyaf o’i math ym Mrhydain Fawr. Yma fe ffeindiwch gasgliad dirfawr o offer coginio, yn ymestyn dros ddau lawr enfawr.
Mae’r adran peiriannau trydan wedi ei lleoli ger y mynediad, lle gellwch hamddena ymysg y peiriannau paratoi a chymysgu bwyd, rhai at wneud coffi, hufen ia, a llawer mwy. Fel y’r ewch ymlaen ar hyd y llawr isaf, fe ewch heibio i’r arddangosfa gyllull, teclynne man, a’r adran pobi, cyn cyrraedd y’r adran lyfrau.
Ewch i fyny’r grisiau i weld amrywiaith eang o sosbane a phadelli ffrio ac arddangosfa ddeiniadol a lliwgar o Le Creuset. Mae’r adran lestri, gwydrau ac offer bar ar gael yno hefyd, yn o gystal a ffedogau a thywelion llestri, a hyd yn oed dillad a esgidiau i’r cogydd proffesiynol.
LLEOLIAD - mae’r siop tua dau cant metr o’r castell, heb fod ymhell o’r stadiwm Genedlaethol, ac o fewn deg munud o gerdded o’r orsaf drennau.
PARCIO – mae na amryw o feusydd parcio, yr agosaf o fewn tair munud o gerdded i’r siop.
ORIAU AGORED:-
Dydd Llun 9.00 tan 6.00
Dydd Mawrth 9.00 tan 6.00
Dydd Mercher 10.00 tan 6.00
Dydd Iau 9.00 tan 6.00
Dydd Gwener 9.00 tan 6.00
Dydd Sadwrn 9.00 tan 6.00
Dydd Sul 11.00 tan 5.00 (rhai adegau o’r flwyddyn yn unig, cysylltwch a ni am wybodaith llawn)
Galwch i mewn, ffoniwch, neu cysylltwch a ni drwy ei’n gwe-fan.
I gael cyfarwyddyd a map o leoliad y siop yng Nghaerdydd, ewch i'n tudalen siop, os gwelwch yn dda.